trac EVENTS

Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Arfon Gwilym a Sioned – Arwyr Canu Gwerin Meirionnydd – Talybont

February 23 @ 8:00 pm

Yn ganwr gwerin o deulu cerddgar o Sir Feirionnydd, mae gan Arfon stor o alawon gwerin ar ei gof, ac wrth ganu cerdd dant, mae’r geiriau a’r ysbryd yn bwysicach iddo na chadw at lythyren y rheolau! Ymddangosodd Arfon Gwilym ar record hir Tafodau Tân yn 1973, a byth ers hynny mae pobol yn cofio ei lais unigryw wrth iddo ganu Marged Fwyn Ferch Ifan. Bu’n canu ychydig tra yn y coleg, ond fuodd o erioed yn aelod o grwp. Gofynodd Huw Jones o SAIN iddo wneud CD yn y 70’au, ond wnaeth o ddim “achos do’n i ddim o ddifri yn canu adeg honno” . Mae ganddo lais delfrydol ar gyfer canu gwerin, ac er bod ei ganeuon wedi eu gwreiddio yn y traddodiad Cymreig, mae iddynt hefyd newydd-deb arbrofol, gyda chaneuon a gosodiadau cerdd dant wedi eu haddasu gan Arfon ei hun. Teimlir cariad a gwerthfawrogiad angerddol am ein hetifeddiaeth a’n hiaith yn ei ganu, tra hefyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol at greu y Gymru Newydd

 

Sioned Webb – Yn wreiddiol o’r Bala, dechreuodd ddysgu’r piano yn bedair oed ac roedd yn enillydd cenedlaethol yn wyth. Astudiodd gyda William Mathias yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor a derbyn gwersi ôl-radd yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Ar ôl cyfnod fel Pennaeth Adran Cerdd Ysgol Tryfan, Bangor, bu’n Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd William Mathias ac y mae’n awr yn gerddor llawn amser. Mae’n awdur nifer o lyfrau addysgol, yn eu plith ‘Cerddoriaeth y Tair Oes Fawr’, ‘Cerddoriaeth Cymru’ a ‘Cerddoriaeth yr G20’.

Mae’n Diwtor Piano Arweiniol gyda’r Gwasanaeth Ysgolion yn ogystal â thiwtora yn CGWM ac mae ei disgyblion wedi ennill y Rhuban Glas Offerynnol yn yr Eisteddfod Genedlaethol  a gwobrau rhyngwladol eraill. Hi yw cyfeilydd Côr Ieuenctid Môn ac mae wedi cyfeilio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Gwyl Gerdd Gogledd Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac i unigolion megis Mary Lloyd Davies, Gwyn Hughes Jones, Rhys Meirion, Aled Hall ac Elin Manahan-Thomas. Mae hefyd wedi gweithio fel répétiteur a chyfeilydd i Opera Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru a chyfeilio i Only Kids Aloud. Yn feirniad a sylwebydd cyson, mae wedi gwneud gwaith cymunedol mewn carchardai ac mae ar  Fwrdd Ymddiriedolwyr Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd.

 

Details

Date:
February 23
Time:
8:00 pm
Event Categories:
, ,

Venue

Y LLew Gwyn

Talybont,
Ceredigion
SY24 5ER
+ Google Map
trac: Music Traditions Wales
© 2018 trac Registered charity number: 1085422;
Company limited by guarantee: 4106014

CONTACT US+

trac
BARRY CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org